Matthew 10:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nac ofnwch gan hynny, chwi delwch mwy na llawer o adar yto.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, nac ofnwch; ar lawer adar y tô yr ydych chwi yn rhagori.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny peidiwch ag ofni; amgenach na llawer o adar to ydych chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly peidiwch bod ofn dim byd; dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nac ofnwch gan hyny: chwi ydych yn fwy gwerthfawr na llawer o adar y tô.