Matthew 10:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy pynac gā hynny am cyffesso i yngwydd dynion, hwnaw a gyffessaf vi nef hefyd yn‐gwydd vy‐Tad yr hwn ’sy yn y nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob un, gan hyny, a’m haddefo I ger bron dynion, Addefaf Finnau hefyd ef ger bron Fy Nhad y sydd yn y nefoedd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pob un, ynteu, â’m harddelo i yng ngŵydd dynion, arddelaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy bynnag gan hynny a'm cyffeso i yng ngŵydd dynion, minnau a'i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda innau'n dweud yn agored o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw'n perthyn i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pob un fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob un, gan hyny, a'm cyffesa I yn ngwydd dynion, minau hefyd a'i cyffesaf yntau yn ngwydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd.