Matthew 10:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy pynac am gwad yngwydd dynion, hwnaw a wada vi hefyd yn‐gwydd vy‐tad yr hwn ’sy yn y nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phwy bynnag a’m gwado I ger bron dynion, Gwadaf Finnau hefyd ef ger bron Fy Nhad y sydd yn y nefoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y neb â’m gwado i yng ngŵydd dynion, gwadaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a'm gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a'i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pwy bynnag sy'n gwadu ei fod yn credu ynof fi o flaen pobl eraill, bydda innau'n gwadu o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw'n perthyn i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pwy bynag a'm gwado I yn ngwydd dynion, minau hefyd a'i gwadaf yntau yn ngwydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd.