Matthew 10:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐daethim i osot dyn y ymrafaely yn erbyn ei dad a’r verch yn erbyn ei mam, ar waydd yn erbyn i chwegr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ni ddaethum i ddanfon heddwch, eithr cleddyf: canys daethum i wahanu dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys deuthum i osod dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi dod i droi ‘mab yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd deuthum i rannu 'dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys daethum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.