Matthew 10:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hwn ny chymer ei groes, a chalyn ar v’ol i, ny d yw deilwng o hanafi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r hwn nad yw yn cymmeryd ei groes ac yn canlyn ar fy ol I, nid yw deilwng o Honof Fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r hwn ni chymero ei groes, a dilyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn nid yw yn cymryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r sawl sydd ddim yn codi ei groes, a cherdded yr un llwybr o hunanaberth â mi, ddim yn haeddu perthyn i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r sawl nad yw'n cymryd ei groes ac yn canlyn ar fy l i, nid yw'n deilwng ohonof fi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol I, nid yw yn deilwng o honof fi.