Matthew 10:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y nep a gatwo ei enait, ai cyll, a’r nep a gollo ei enad om pleit i, ai caidw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n cael ei einioes, a’i cyll; a’r hwn a gollo ei einioes o’m hachos I, a’i caiff.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gaffo’i fywyd a’i cyll, ac a gollo’i fywyd er fy mwyn i a’i caiff.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y neb sydd yn cael ei einioes, a'i cyll: a'r neb a gollo ei einioes o'm plegid i, a'i caiff hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y sawl sy'n ceisio amddiffyn ei fywyd yn colli'r bywyd go iawn, ond y sawl sy'n barod i ollwng gafael ar ei fywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn iddo'i hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr un sy'n ennill ei fywyd a'i cyll, a'r un sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'i hennill.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn cael ei einioes a'i cyll: a'r neb a gollo ei einioes o'm plegyd I a'i caiff hi.