Matthew 10:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy pynac a roddo ir vn o’r ei bychein hyn phiolet o ddwfr oer yn vnic, yn enw discipul, yn wir y dywedaf ychwi, ny chyll ef ei vv obr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn phiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll mo’i wobr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phwybynnag a ro i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn gwpanaid o ddŵr oer yn unig am ei fod yn ddisgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll mo’i wobr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a roddo i'w yfed i un o'r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does ond rhaid i rywun roi diod o ddŵr oer i un o'r rhai bach yma sy'n ddilynwyr i mi, a chredwch chi fi, bydd y person yna'n siŵr o gael ei wobr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phwy bynnag a rydd gymaint chwpanaid o ddu373?r oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phwy bynag a roddo i'w yfed i un o'r rhai bychain hyn gwpanaid o ddwfr oer yn unig yn enw dysgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr o gwbl.