Matthew 11:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC e darvu, gwedy tervyny o’r Iesu orchmyny y’w ddauddec Apostoliō, ef aeth oddyno er ei dyscy a’phrecethy yny dinasoedd wy. Yr Euangel y trydydd Sul yn Aduent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu pan orphenodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, yr aeth oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu dinasoedd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan orffennodd yr Iesu gyfarwyddo’i ddeuddeg disgybl, fe symudodd oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu dinasoedd hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, pan orffennodd yr Iesu orchymyn i'w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Iesu wedi gorffen dysgu ei ddeuddeg disgybl, aeth yn ei flaen ar ei daith o gwmpas trefi Galilea yn dysgu ac yn pregethu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan orffennodd Iesu ddysgu ei ddeuddeg disgybl, symudodd oddi yno er mwyn dysgu a phregethu yn eu trefi hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, pan orphenodd yr Iesu gyfarwyddo ei Ddeuddeg Dysgybl, efe a ymadawodd oddiyno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.