Matthew 11:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac yn dywedyt, Canasam chwibanoc ywch’, ac ny neidiesoch: ys canesam alar nad ywch’, ac ny chwynfanesoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai gan lefain wrth eu cyfeillion, a ddywedant, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canasom i chwi bibau, ac ni ddawnsiasoch, Canasom alarnad, ac ni churasoch ddwyfron.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Roedden ni'n chwarae priodas, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; Roedden ni'n chwarae angladd, ond wnaethoch chi ddim galaru.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Canasom ffliwt i chwi,ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a ddywedant, Canasom ar bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom, ac ni churasoch ddwyfron.