Matthew 11:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Daeth Map y dyn yn bwyta ac yn yfet, ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, car ir Publicanot a’ phechaturieit: eithyr doethinep a gyfiawnheir gan ei blant ehun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
daeth Mab y Dyn yn bwytta ac yn yfed, a dywedant, Wele, dyn glwth ac yfwr gwin, cyfaill treth-gymmerwyr a phechaduriaid. Ond cyfiawnheir doethineb gan ei gweithredoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddant, ‘Dyma ddyn glŵth a llymeitiwr gwin, cyfaill trethwyr a phechaduriaid.’ Eto cyfiawnhawyd doethineb gan ei gweithredoedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed, a maen nhw'n dweud, ‘y bolgi! Meddwyn yn diota a stwffio'i hun! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid eraill ydy e!’ Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson ydy'r dadleuon. Dych chi mor anghyson mae'ch ffolineb chi'n amlwg!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Mab y Dyn, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac y maent yn dweud, 'Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.' Ac eto profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Daeth Mab y Dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Treth‐gasglwyr a phechaduriaid. Etto, Doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.