Matthew 11:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae dy di Chorasin: Gwae dy di Bethsaida: can ys pe gwneythesit yn Tyrus a’ Sidon y gweithredoedd‐ mawrion a wnaethpwyt yno‐chwi, wy a gymeresent edifeirwch gynt mewn lliain sach a llytw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae di Corazin; gwae di Bethtsaida; canys ped yn Tyrus ac yn Tsidon y buasai’r gwyrthiau a fuant ynoch, er ys talm mewn sachlïain a lludw yr edifarhasent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Gwae di, Chorasin! Gwae di, Fethsaida! Canys pe yn Nhyrus a Sidon y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynoch chwi, ers talm mewn sachliain a lludw yr edifarhasent.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachliain a lludw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar trwy wisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm mewn sachliain a lludw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae di, Chorazin; gwae di, Bethsaida; canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol sydd wedi eu gwneyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachlian a lludw.