Matthew 11:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ys dywedaf y chwy, mai ynsmwythach vydd i Tyrus a’ Sidon yn‐ d ydd brawd, nac i chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond meddaf i chwi, i Tyrus a Tsidon y bydd yn fwy dioddefadwy yn nydd y farn nag i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr meddaf i chwi, esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn nag i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn, nag i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wir i chi, bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond 'rwy'n dweud wrthych, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Er hyny, meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn Nydd y Farn nag i chwi.