Matthew 11:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thy di Capernaum, yr hon a dderchefir yd y nef oedd, a th dynnir y lawr yd yn yffern: can ys pe y ymplith yr ei o Sodoma y gwnaethesit y gweithredoeð mawrion a wnaethpwyt yno ti, wy vysent yn aros yd heddy vv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thydi, Caphernahwm, ai hyd y nef y’th ddyrchefid? Hyd Hades y disgyni, canys ped yn Sodom y buasai’r gwyrthiau a fuant ynot ti, arosasai hyd heddyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thithau, Capernaum, ai hyd nef y’th ddyrchefir? Na, hyd Annwn y disgynni; canys pe yn Sodom y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynot ti, hi arosasai hyd heddiw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thydi, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern: canys pe gwnelsid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll! Petai'r gwyrthiau wnes i ynot ti wedi digwydd yn Sodom, byddai Sodom yn dal yma heddiw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thithau, Capernaum, 'A ddyrchefir di hyd nef? Byddi'n disgyn hyd Hades.' Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynot ti wedi eu gwneud yn Sodom, buasai'n sefyll hyd heddiw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thydi Capernäum, a ddyrchefir di hyd y nef? ti a äi i lawr hyd yn Hades, canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol sydd wedi eu gwneyd ynot ti, hi a arosai hyd heddyw.