Matthew 11:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Yn yr amser hynny ydd atepawdd yr Iesu, ac y dyvot, Yty y diolchaf, Dat, Arglwydd nef a ’daear can yty guddiaw y pethae hyn rhac y doethion a’r pruddion, a’ ei egluraw hwy ir ei bychain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr amser hwnw, gan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Diolchaf i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am guddio o Honot y pethau hyn rhag doethion a rhai deallus, a’u datguddio i fabanod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr amser hwnnw y llefarodd yr Iesu ac y dywedodd, “Molaf di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio’r pethau hyn rhag doethion a gwybodusion, a’u datguddio i blant bach;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datguddio ohonot i rai bychain:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny dyma Iesu'n dweud, “Fy Nhad, Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i rai sy'n agored fel plant bach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr amser hwnnw dywedodd Iesu, "Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr amser hwnw yr atebodd yr Iesu, gan ddywedyd, Yr ydwyf yn diolch i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a'r ddaear, am i Ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a datguddio y cyfryw i fabanod.