Matthew 11:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pop peth a roddwyt y‐my gan vy‐Tat: ac nyd edwyn nep y Map, eithr y Tat: ac nyd edwyn nep y Tat diethr y Map, a’r hwn yr ewyllysio ’r Map ei eglurhau iddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob peth, i Mi y’i traddodwyd gan Fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab, oddieithr y Tad; nac y Tad nid yw neb yn Ei adnabod oddieithr y Mab, a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab Ei ddatguddio Ef iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Popeth a draddodwyd i mi gan fy Nhad, ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad, na’r Tad nis edwyn neb ond y Mab, a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio'r Mab ei ddatguddio iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Nid oes neb yn adnabod y Mab, ond y Tad, ac nid oes neb yn adnabod y Tad, ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo.