Matthew 11:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ddyvot wrthaw: Ai ti yw’r hwn a ðaw, ai dysgwyl a wnawn am aral’?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi danfon trwy ei ddisgyblion, a ddywedodd Wrtho, Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall yr ym yn ei ddisgwyl?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i ddywedyd wrtho, “Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw'r hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gofyn iddo, "Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a ddywedodd, wrtho, Ai tydi yw yr Hwn sydd yn dyfod neu ai un gwahanol a ddysgwyliwn?