Matthew 11:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y mae’r daillion yn cahel ei golwc, a’r cloffion yn rhodiaw: a’r cleifion‐gohanol wedy ei glāhay, a’r byddair yn clywet: y meirw y gyfodir, a’r tlodion yn d erbyn yr Euangel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y mae deillion yn gweled eilwaith, a chloffion yn rhodio, cleifion gwahanol yn cael eu glanhau, a byddariaid yn clywed, a meirw yn cael eu cyfodi; a thlodion yn cael pregethu’r efengyl iddynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y mae deillion yn cael eu golwg, a chloffion yn cerdded, gwahangleifion yn dyfod yn lân, a byddariaid yn clywed a meirw’n cyfodi, ac i dlodion y cyhoeddir newyddion da.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae'r deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn clywed; y mae'r meirw yn cyfodi, a'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn l, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y mae y deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio; y gwahan‐gleifion a lanheir, ac y mae byddariaid yn clywed, a'r meirw yn cael eu cyfodi, ac i'r tlodion y mynegir newyddion da;