Matthew 11:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wynt yn mynet ymaith, ef a ddechreuawð yr Iesu ddywedyt wrth y popul, am Ioan, Pa beth yr aethoch ir ddiffeith i edrych am danaw? ai corsen a yscytwei gan wynt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai hyn yn myned eu ffordd, dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych arno? ai corsen a gwynt yn ei hysgwyd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyda’u bod hwy’n myned, dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrth y tyrfaoedd am Ioan, “Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i edrych arno? Ai corswellt yn ysgwyd gan wynt?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych amdano? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i ddisgyblion Ioan adael, dechreuodd Iesu siarad â'r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i'r anialwch i'w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth i ddisgyblion Ioan fynd ymaith, dechreuodd Iesu sn am Ioan wrth y tyrfaoedd. "Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i syllu arno? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?