Matthew 11:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pa beth yr aethoch yw welet? Ai dyn wedy ’r wisco mewn dillat esmwyth? Nycha, yr ei ys y yn gwisco dillat esmwyth, mewn tai Brenhinoedd y maent,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai dyn â gwisgoedd esmwyth am dano? Wele, y rhai sy’n gwisgo’r gwisgoedd esmwyth, yn nhai’r brenhinoedd y maent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn â dillad esmwyth amdano? Wele’r rhai sy’n gwisgo dillad esmwyth, yn nhai’r brenhinoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na? Pam aethoch chi allan felly? I weld dyn mewn dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai un wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Yn nhai brenhinoedd y mae'r rhai sy'n gwisgo dillad esmwyth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, yn nhai breninoedd y maent.