Matthew 12:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YR amser hyny ydd aeth yr Iesu ar ddydd y Sabbath trwy r yd, ac ydd oedd newyn ar ei ddiscipulō, ac a ddechreysont dynny tywys yr yd a’bwyta.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr amser hwnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath trwy’r maesydd ŷd; ac ar Ei ddisgyblion yr oedd chwant bwyd, a dechreuasant dynnu tywys a bwytta.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath drwy’r meysydd ŷd; a daeth eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreuasant dynnu tywys a bwyta.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy'r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwyta.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny aeth Iesu drwy ganol caeau ŷd ar y dydd Saboth. Roedd ei ddisgyblion eisiau bwyd, a dyma nhw'n dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd a'u bwyta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr amser hwnnw aeth Iesu drwy'r caeau u375?d ar y Saboth; yr oedd eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreusant dynnu tywysennau a'u bwyta.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr amser hwnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath drwy y meusydd ŷd, ac ar ei Ddysgyblion yr oedd eisieu bwyd, ac a ddechreuasant dynu tywys, a bwyta.