Matthew 12:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, ydd oedd yno vn a ei law wedy dy sychy. Ac wy a ovynesont iddaw, gan ddywedyt, Ai cyfreithlawn iachay ar y Sabbath? val y gallent achwyn arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wele, dyn a llaw ganddo wedi gwywo: a gofynasant Iddo, Ai cyfreithlon ar y Sabbath yw iachau? fel y cyhuddent Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma ddyn â llaw wywedig. A gofynasant iddo, “A ddylid iacháu ar y Sabbath?” fel y cyhuddent ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac roedd dyn yno oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod hi'n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yno yr oedd dyn a chanddo law ddiffrwyth. Gofynasant i Iesu, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn, "A yw'n gyfreithlon iachu ar y Saboth?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai cyfreithlawn iachau ar y Sabbath? fel y gallent ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.