Matthew 12:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ðyvot wrthwynt, Pa ðyn o hanoch vydd, ac iddo vn ddavat, ac o chwympa hi mewn ffos ar y dydd Sabbath, any chymer ef y hi a’i chodi allan?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn fydd o honoch, a chanddo un ddafad, ac o syrth hon ar y Sabbath i ffos, nad ymeifl ynddi, a’i chodi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthynt, “Pa ddyn ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno ar y Sabbath i bwll, ni chydia ynddi a’i chodi?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a'i chodi allan?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi'n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w chodi hi allan?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau wrthynt, "Pwy ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno i bydew ar y Saboth, na fydd yn gafael ynddi a'i chodi?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn o honoch, a chanddo un ddafad, ac o syrth hono ar y Sabbath i bwll, nid ymafla ynddi a'i chodi allan? (Deut 22:4).