Matthew 12:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ef wrth y dyn, Estyn dy law, Ac ef y h estynnawdd, a hi a wnaed yn iach val y llal’.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y dywedodd wrth y dyn, Estyn dy law; ac estynodd efe hi, ac adferwyd hi yn iach fel y llall.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna medd ef wrth y dyn, “Estyn dy law.” Ac fe’i hestynnodd, ac adferwyd hi’n iach fel y llall.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr, nes ei bod mor gryf â'r llaw arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd wrth y dyn, "Estyn dy law." Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn holliach fel y llall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dywed efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynodd; a hi a adferwyd, yn iach fel y llall.