Matthew 12:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nycha vy‐gwas anaethur yr hwn a dd etholeis, vy‐caredic yn yr hwn y digrifir vy enait: gosodaf vy Yspryt arnaw, ac ef a ddengys varn ir Cenetloedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Wele Fy ngwas yr hwn a ddewisais, Fy Anwylyd, yn yr Hwn y boddlonwyd Fy enaid: Gosodaf Fy Yspryd Arno, A barn a fynega Efe i’r Cenhedloedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Wele fy ngwas yr hwn a ddewisais, fy anwylyd a fu wrth fodd fy enaid; gosodaf fy ysbryd arno, a barn i’r cenhedloedd a gyhoedda.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma'r un dw i wedi ei ddewis yn was i mi, yr un dw i'n ei garu, ac mor falch ohono; Rhof fy Ysbryd Glân iddo, a bydd yn cyhoeddi cyfiawnder i'r cenhedloedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dyma fy ngwas, yr un a ddewisais, fy anwylyd, yr ymhyfrydodd fy enaid ynddo. Rhoddaf fy Ysbryd arno, a bydd yn cyhoeddi barn i'r Cenhedloedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele fy ngwas yr Hwn a ddewisais, Fy Anwylyd, yn yr Hwn y boddlonwyd fy enaid: Gosodaf fy Yspryd arno, Ac efe a gyhoedda farn i'r cenedloedd.