Matthew 12:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd ymryson ef, ac ny lefain, ac ny’s clyw neb y lais ef yn yr heolydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid ymryson Efe, na gwaeddi; Ac ni chlyw neb yn y llydanfeydd Ei lais Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid ymrafaelia ac ni chrochlefa, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd e ddim yn cweryla nac yn gweiddi i dynnu sylw ato'i hun, a fydd neb yn clywed ei lais ar y strydoedd;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fydd yn ymrafael nac yn gweiddi, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid ymryson efe, ac ni waedda; Ac ni chlyw neb ei lais yn y prif heolydd.