Matthew 12:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y ducpwyt attaw vn cythraulic, yn ddall ac yn vut, ac ef ai iachaodd ef, yn y lavarawdd, ac y gwelai yr hvvn vysei ddall a’ mut.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y dygpwyd Atto un cythreulig, dall a mud; ac iachaodd Efe ef, fel y bu i’r mudan lefaru a gweled:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna y dygwyd ato un cythreulig, dall a mud; ac fe’i hiachaodd nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweled.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y ducpwyd ato un cythreulig, dall, a mud: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dod â dyn at Iesu oedd yn ddall ac yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Dyma Iesu'n ei iacháu, ac roedd yn gallu siarad a gweld wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dygwyd ato ddyn chythraul ynddo, yn ddall a mud; iachaodd Iesu ef, nes bod y mudan yn llefaru a gweld.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dygwyd ato un cythreulig, dall a mud; ac efe a'i hiachaodd ef, fel y darfu i'r mudan lefaru a gweled.