Matthew 12:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a sannawdd ar yr oll popul, gan ðywedyt, Any d hwn yw map Dauid?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a synnodd yr holl dorfeydd, a dywedasant, Ai hwn yw Mab Dafydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A synnai’r holl dyrfaoedd, a dywedent, “Ai hwn yw mab Dafydd?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y bobl i gyd yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Tybed ai hwn ydy Mab Dafydd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A synnodd yr holl dyrfaoedd a dweud, "A yw'n bosibl mai hwn yw Mab Dafydd?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw Mab Dafydd?