Matthew 12:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s myvi trwy Beelzebub a vwriaf allan gythraulieit, trwy pwy vn y bwrw eich plant chvvi ’n wy allan? Ac am hynny y byddant wy yn veirniait arnoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os Myfi wyf trwy Beelzebub yn bwrw allan y cythreuliaid, eich meibion chwi, trwy bwy y maent yn bwrw allan? Am hyny, hwy a fyddant eich barnwyr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os drwy Feelsebwl y bwriaf i’r cythreuliaid allan, trwy bwy y bwrw eich meibion chwi hwynt allan? Am hynny byddant hwy yn farnwyr arnoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os trwy Beelzebwl yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan? O herwydd hyn, hwy eu hunain a fyddant eich barnwyr chwi.