Matthew 12:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s myvi a vwriaf allan gythreuliait trwy yspryt Duw, yno y daeth teyrnas Dyw atoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os Myfi wyf trwy Yspryd Duw yn bwrw allan y cythreuliaid, yna y daeth teyrnas Dduw attoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond os drwy ysbryd Duw yr ydwyf i yn bwrw’r cythreuliaid allan, yna daeth teyrnas Dduw arnoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os mai Ysbryd Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os trwy Ysbryd Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr os trwy Yspryd Duw yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, yna y mae Teyrnas Dduw wedi cyrhaedd atoch chwi.