Matthew 12:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthynt, Any ddallenasoch beth a wnaeth Dauid pan oedd arno newyn, a’r ei oeð y gyd ac ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan yr oedd chwant bwyd arno, a’r rhai gydag ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthynt, “Oni ddarllenasoch beth a wnaeth Dafydd pan ddaeth eisiau bwyd arno a’r rhai oedd gydag ef?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gydag ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau wrthynt, "Onid ydych wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd pan yr oedd eisieu bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef: