Matthew 12:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y nep nid yw yd a mi, ys ydd yn v’erbyn: a’r nep ny chascl gyd a mi, a ’oyscar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn nad yw gyda Mi, yn Fy erbyn y mae; ac yr hwn nad yw’n casglu gyda Mi, gwasgaru y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y neb nid yw gyda mi, yn fy erbyn y mae, a’r neb nid yw’n casglu gyda mi sy’n gwasgaru.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a'r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os dydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os dydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y neb nid yw gyda mi sydd yn fy erbyn; a'r neb nid yw yn casglu gyda mi sydd yn gwasgaru.