Matthew 12:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy pynac a ddyweto ’air yn erbyn Map y dyn, e vaddeuir yddaw: any d pwy pynac a ddywet yn erbyn yr Yspryt glan, ny’ s maddeuir iddo, nag yn y byt hwn, nag yn y byt a ddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y Dyn, maddeuir iddo; ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir iddo, nac yn yr einioes hon nac yn yr hon a fydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe faddeuir iddo; ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir iddo nac yn yr oes hon nac yn yr oes a ddaw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd rhywun sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i bwy bynnag sy'n dweud rhywbeth yn erbyn yr Ysbryd Glân, yn yr oes yma nac yn yr oes i ddod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond pwy bynnag a'i dywed yn erbyn yr Ysbryd Gln, ni chaiff faddeuant nac yn yr oes hon nac yn yr oes sydd i ddod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phwy bynag a ddywedo air yn erbyn Mab y Dyn, fe a faddeuir iddo; ond pwy bynag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glan, ni faddeuir iddo, nac yn y byd hwn nac yn yr hwn a ddaw.