Matthew 12:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ai gwnewch y pren yn dda, a’i ffrwyth yn dda: ai gwnewch y pren yn ðrwc, a’i ffrwyth yn ddrwc: can ys y pren a adwenir wrth ei ffrwyth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Naill ai gwnewch y pren yn dda a’i ffrwyth yn dda, neu gwnewch y pren yn llygredig a’i ffrwyth yn llygredig, canys wrth y ffrwyth yr adwaenir y pren.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Naill ai cyfrifwch fod y pren yn dda a’i ffrwyth yn dda, ai cyfrifwch fod y pren yn sâl a’i ffrwyth yn sâl; canys wrth ei ffrwyth yr adweinir y pren.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Naill ai gwnewch y pren yn dda, a'i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a'i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dewiswch y naill neu'r llall — fod y goeden yn iach a'i ffrwyth yn dda, neu fod y goeden yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Naill ai cyfrifwch y goeden yn dda a'i ffrwyth yn dda, neu cyfrifwch y goeden yn wael a'i ffrwyth yn wael. Wrth ei ffrwyth y mae'r goeden yn cael ei hadnabod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Naill ai gwnewch y pren yn dda a'i ffrwyth yn dda, neu gwnewch y pren yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg, canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.