Matthew 12:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr mi ddywedaf wrthych, mai am bop gair segur a ðywait dynion, y rhoddant gyfri yn‐ d ydd varn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedaf wrthych, Pob ymadrodd segur yr hwn a adrodd dynion, rhoddant gyfrif am dano yn nydd y farn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddaf i chwi, pob gair ofer a lefaro dynion, rhoddant gyfrif amdano yn nydd y farn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll wnaethon nhw ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Rwy'n dweud wrthych am bob gair di-fudd a lefara pobl, fe roddant gyfrif amdano yn Nydd y Farn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pob gair segur a lefaro dynion, rhoddant gyfrif am dano yn Nydd y Farn.