Matthew 12:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Yno yð atepoð rei or Gwyr llen a’r Pharisaieit gan ddywedyt, Athro, ys chwenychem welet arwydd genyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna yr attebodd rhai o’r Ysgrifenyddion a’r Pharisheaid Iddo, gan ddywedyd, Athraw, ewyllysiem weled arwydd Genyt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna’r atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef, gan ddywedyd; “Athro, dymunwn weled arwydd gennyt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato, a dweud wrtho, “Athro, gad i ni dy weld di'n gwneud rhyw arwydd gwyrthiol.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid wrtho, "Athro, fe garem weld arwydd gennyt."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna yr atebodd rhai o'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid iddo, gan ddywedyd, Athraw, ni a chwennychem weled arwydd oddiwrthyt.