Matthew 12:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a atepawdd, ac a ddyvot wrth wynt, Cenedleth ddrwc ’odinabus a gais arwyð, anyd ny roir iddi, n amyn arwydd y Prophwyt Ionas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus, arwydd a gais hi; ac arwydd ni roddir iddi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yntau iddynt, “Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sy’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi oddieithr arwydd Ionas y proffwyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd nhw, “Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau, "Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd y proffwyd Jona.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn dyfal‐geisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi ond arwydd Jonah y Proffwyd.