Matthew 12:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Val ddaeth ef ymewn y duy Ddyw, a’ bwyta’r bara gosot yr hwn nyd oedd gyfraithlawn iddo y vwyta, nac ir ei oeð gydac ef, and yn vnic ir Offeiriait?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a bara’r gosodiad ger bron a fwyttaodd efe, yr hwn nid cyfreithlon ydoedd iddo ei fwytta, nac i’r rhai gydag ef, ond i’r offeiriaid yn unig?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
pa fodd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytasant y torthau gosod, peth ni ddylasai ef ei fwyta, na’r rhai a oedd gydag ef, ond yr offeiriaid yn unig?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta, nac i'r rhai oedd gydag ef, ond yn unig i'r offeiriaid?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta'r bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud fod ganddo fe a'i ddilynwyr ddim hawl i'w fwyta; dim ond yr offeiriaid oedd â hawl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sut yr aeth i mewn i du375? Dduw a sut y bwytasant y torthau cysegredig, nad oedd yn gyfreithlon iddo ef na'r rhai oedd gydag ef eu bwyta, ond i'r offeiriaid yn unig?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
pa fodd yr aeth efe i fewn i dy Dduw, ac y bwytaodd y torthau gosod (1 Sam 21:6), y rhai nid ydoedd gyfreithlawn iddo eu bwyta, nac i'r rhai oeddynt gydag ef, ond i'r offeiriaid (Lef 24:9) yn unig?