Matthew 12:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwyr Niniue a gyfyt ym‐barn y gyd a’r genedleth hon, ac ei barn hi: can ys yddynt vvy edifarhay wrth preceth Ionas. A’ nycha vn mwy na g Ionas yn y man yma.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemniant hi, canys edifarhasant wrth bregethiad Ionah, ac wele, mwy nag Ionah yma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwŷr o Ninefeaid a saif i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemnia; canys edifarhasant hwy wrth bregeth Ionas, ac wele fwy nag Ionas yma.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyr Ninife a gyfodant yn y Farn gyda'r genedlaeth hon, ac a'i condemniant hi, am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonah, ac wele fwy na Jonah yma.