Matthew 12:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nycha Brenhines y Deau a gyfyd yn y varn y gyd ar genedleth hon, ac ac y barn hi: can iddi hi ddyvot o eithafion y ddaiar i glywed doethinep Selef: a‐nycha vn mwy na Selyf yn y man yma.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi, canys daeth o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Shalomon, ac wele, mwy na Shalomon yma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac ai condemnia; canys daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac wele fwy na Solomon yma.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A bydd Brenhines Seba yn condemnio'r genhedlaeth yma ar ddydd y farn. Roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Brenines y Dehau a gyfyd yn y Farn gyda'r genedlaeth hon, ac a'i condemnia hi, am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon; ac wele fwy na Solomon yma.