Matthew 12:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’ phan el yr yspryt aflan allan o ddyn, ef a rodia rhyd lleoeð sychion, gan gaisio gorphwys fa, ac eb gahel dim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan fo’r yspryd aflan wedi myned allan o ddyn, rhodia trwy leoedd diddwfr, gan geisio gorphwysdra, ac nid yw yn ei gael:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan êl ysbryd aflan allan o ddyn, fe grwydro drwy leoedd sychion gan geisio egwyl, ac nis caiff.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn chwilio am le i orffwys. Ond pan mae'n methu dod o hyd i rywle,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ac nid yw yn ei gael.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan el yr yspryd aflan allan o'r dyn, efe a dramwya drwy leoedd sychion, gan geisio gorphwysfa, ac nid yw yn ei chael.