Matthew 12:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywait, Ymchoelaf im tuy, o’r lle y daethym: ac wedy y delo, y caiff e yn wac, wedy’r yscupo, a’ ei addurno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yna y dywaid, Dychwelaf i’m tŷ o’r lle y daethum allan; ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna fe ddywed, ‘Dychwelaf i’m tŷ y deuthum allan ohono’; ac wedi dyfod fe’i caiff yn wag ac yn lân ac yn ddestlus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i drwsio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
mae'n meddwl, ‘Af i yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’ Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ yn wag ac wedi ei lanhau a'i dacluso trwyddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna y mae'n dweud, 'Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.' Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna, medd efe, mi a ddychwelaf i'm tŷ, o'r lle y daethum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i drwsio.