Matthew 12:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Yno ydd a ef, ac a gymer ataw saith yspryt ereill scelerach nog ef, y un, ac a ant y mewn ac a gyfanneddant yno: a’ gwaeth vydd dyweð hynt y dyn hwnw na ei ddechrae at. Ac velly y bydd ir genedleth enwir hon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna yr â ac a gymmer gydag ef ei hun saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun; ac wedi myned i mewn cyfanneddant yno; a gwneir cyflwr olaf y dyn hwnw yn waeth na’i gyntaf: felly y bydd i’r genhedlaeth ddrwg hon hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna yr â, ac y cymer gydag ef saith o ysbrydion eraill gwaeth nag ef ei hun, ac ânt i mewn a chartrefant yno; ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na'i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i'r genhedlaeth ddrwg hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e. Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau! Fel yna fydd hi ar y genhedlaeth ddrwg yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna y mae'n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn dod i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf. Felly hefyd y bydd i'r genhedlaeth ddrwg hon."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y mae efe yn myned ac yn cymmeryd gydag ef ei hun saith yspryd ereill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i fewn, hwy a ymgartrefant yno; ac y mae cyflwr diweddaf y dyn hwnw yn waeth na'r cyntaf. Felly y bydd hefyd i'r genedlaeth ddrwg hon.