Matthew 12:46 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Tra ytoedd ef yn ymadroð wrth y dyrfa, nycha ei vam a’ei vrodwr yn sefyll allan, yn caisio ymddiddan ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, Ei fam a’ i frodyr oeddynt yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ef eto’n llefaru wrth y tyrfaoedd, dyma’i fam a’i frodyr yn sefyll y tu allan ac yn ceisio siarad ag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a'i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra oedd Iesu'n dal i siarad â'r bobl, cyrhaeddodd ei fam a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan a gofyn am gael gair gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd ef yn dal i siarad 'r tyrfaoedd, yr oedd ei fam a'i frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad ag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tra yr oedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele ei fam a'i frodyr oeddynt yn sefyll y tu allan, yn ceisio ymddyddan ag ef.