Matthew 12:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nei any ðarllenasoch yn y Ddedyf vot yr Offeiriait ar y Sabbath yn y Templ yn tori’r Sabbath, ac ei bot yn ddirgerydd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Neu, oni ddarllenasoch yn y Gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabbathau, yn y deml, yn halogi’r Sabbath, ac eu bod yn ddieuog?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Neu oni ddarllenasoch yn y Gyfraith fod yr offeiriaid ar y Sabbath yn y deml yn halogi’r Sabbath, ac eto eu bod yn ddieuog?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi'r Saboth, a'u bod yn ddigerydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neu ydych chi ddim wedi darllen beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud am y Saboth? Mae'r offeiriaid yn torri rheolau'r Saboth trwy weithio yn y deml! Ac eto maen nhw'n cael eu cyfri'n ddieuog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Neu onid ydych wedi darllen yn y Gyfraith fod yr offeiriaid ar y Saboth yn y deml yn halogi'r Saboth ond eu bod yn ddieuog?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Neu oni ddarllenasoch yn y Gyfraith (Num 28:9, 10) fod yr offeiriaid ar y Sabbath yn y Deml yn halogi y Sabbath, a'u bod yn ddifai?