Matthew 12:50 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pwy pynac a wna ewyllys vy‐Tad yr hwn y sy dd yn y nefoedd, hwnw yw vy‐brawt, a’ m chwaer, a’ mam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd, efe, Fy mrawd I, a’m chwaer, ac Fy mam yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys pwy bynnag a wnêl ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd, ef sy frawd i mi, a chwaer, a mam.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae fy Nhad nefol eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pwy bynag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd, efe yw fy mrawd I, a'm chwaer, a'm mam.