Matthew 12:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pe gwyddech pa beth yw hyn, Trugareð a ewyllysiaf ac nid aberth, ny varnesech‐ chvvi ar yr ei diniwet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond pe gwybuasech pa beth yw, “Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth,”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pe gwybuasech beth yw Trugaredd a fynnaf ac nid aberth, ni chondemniasech y dieuog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pe gwybuasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Petaech chi wedi deall ystyr y gosodiad, ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau,’ fyddech chi ddim yn condemnio'r dieuog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pe buasech wedi deall beth yw ystyr y dywediad, 'Trugaredd a ddymunaf, nid aberth', ni fuasech wedi condemnio'r dieuog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pe gwybuasech beth ydyw hyn: “Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth,” ni chyhoeddasech farn yn erbyn y difai.