Matthew 13:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Yno y daeth y discipulon, ac y dywedesont wrthaw, Paam yr ymadroddy wrthynt ym‐ p arabolae?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod Atto, y disgyblion a ddywedasant Wrtho, Paham mai mewn damhegion y llefari wrthynt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth y disgyblion ato a dywedyd wrtho, “Paham y lleferi wrthynt ar ddamhegion?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth y disgyblion ato a gofyn, “Pam wyt ti'n dweud y straeon yma wrthyn nhw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y disgyblion a dweud wrtho, "Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daeth y Dysgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt mewn dammegion?