Matthew 13:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit pwy pynac ys y dd iddo, iddo ef y rhoir, ac ef a gaiff helacthrwydd: eythyr pwy pynac nid oes iddo, o y arno ef y dugir, ac hyn y ’sy dd yddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys pwy bynnag sydd a chanddo, rhoddir iddo, a gorlawnder fydd iddo: ond pwy bynnag nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn y sydd ganddo a ddygir oddi arno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pwy bynnag sydd ganddo, fe roddir iddo ac fe roddir yn helaeth; ond pwy bynnag nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy, a byddan nhw ar ben eu digon! Ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim — bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd pwy bynag sydd ganddo y rhoddir iddo, ac efe a gaiff helaethrwydd; eithr pwy bynag nid oes ganddo — ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir ymaith oddiarno.