Matthew 13:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly ynthynt wy y cyflawnwyt Prophedoliaeth Esaias, yr hon a ddywait, Can glywet y clywwch, ac ny’s dyellwch, ac yn gweled y gwelwch, ac ny’s can v yddwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chyflawnir iddynt brophwydoliaeth Eshaiah y sydd yn dywedyd, “A chlyw y clywch, ac ni ddeallwch ddim, A chan weled y gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyflawnir ynddynt broffwydoliaeth Eseia sy’n dywedyd, Er clywed a chlywed, eto ni ddeellwch, Ac er gweled a gweled, eto ni chanfyddwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ynddyn nhw mae'r hyn wnaeth Eseia ei broffwydo yn dod yn wir: ‘Byddwch chi'n gwrando'n astud, ond byth yn deall; Byddwch chi'n edrych yn ofalus, ond byth yn dirnad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chyflawnir ynddynt hwy y broffwydoliaeth gan Eseia sy'n dweud: 'Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim; er edrych ac edrych, ni welwch ddim.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac iddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Esaiah, yr hon sydd yn dywedyd, “Trwy glywed y clywch, ac ni ddeallwch ddim; Ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim;