Matthew 13:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit, yn wir y dywedaf ychwi, mai llawer o Prophwyti, a’ Rei cyfiawn a ddeisyfesant weled yr hyn a welw‐chwi, ac ny’ vv welsant, a’ chlybot yr hyn a glywsoch, ac ny’ vv chlywsant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yn wir y dywedaf wrthych, Llawer prophwyd a chyfiawnion a chwennychasant weled y pethau a welwch, ac ni welsant; a chlywed y pethau a glywch, ac ni chlywsant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yn wir meddaf i chwi, llawer o broffwydi a rhai cyfiawn a chwenychodd weled y pethau a welwch, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau a glywch, ac nis clywsant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wir i chi, mae llawer o broffwydi a phobl dduwiol wedi hiraethu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a rhai cyfiawn wedi dyheu am weld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd yn wir y dywedaf i chwi, i lawer o broffwydi a rhai cyfiawn chwennychu gweled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.